Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dydd Mawrth 12 Mawrth a dydd Mercher 13 Mawrth 2013
Dydd Mawrth 19 Mawrth a dydd Mercher 20 Mawrth 2013
Toriad: Dydd Llun 25 Mawrth - dydd Sul 14 Ebrill 2013
Dydd Mawrth 16 Ebrill a dydd Mercher 17 Ebrill 2013
***********************************************************************
Dydd Mawrth 12 Mawrth 2013
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd: Adroddiad Guildford ar y Trefniadau ar gyfer Gweithredu Rhaglenni Ewropeaidd 2014-2020 (30 munud)
· Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau: Rhagor o Brentisiaethau yng Nghymru (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth: Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid: Fframwaith Adfywio Newydd i Gymru (30 munud)
· Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd: Adroddiad Diweddaru ar Hwyluso'r Drefn - Ehangu Busnes y Fferm (30 munud)
· Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2013 (15 munud)
· Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Canfod Twyll a Gorfodi) (Cymru) (15 munud)
· Dadl: Ansawdd yn GIG Cymru - sicrhau dysgu o Adroddiad Francis (60 munud)
Dydd Mercher 13 Mawrth 2013
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ (45 munud)
· Cwestiynau i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth (45 munud)
Busnes y Cynulliad
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân:
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau o dan Reol Sefydlog 22.9 (Adroddiad 01-13) (15 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau o dan Reol Sefydlog 22.9 (Adroddiad 02-13) (15 munud)
· Dadl Cyfnod 1 ar y Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru) (60 munud)
Busnes y Llywodraeth
· Penderfyniad ariannol ar y Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru) (5 munud)
Busnes y Cynulliad
· Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
NNDM5181
Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn penderfynu cefnogi'r egwyddor o gynnal gwrandawiadau cyn cadarnhau yng nghyswllt apwyntiadau cyhoeddus pwysig yng Nghymru.
· Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
· Dadl Fer - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) (30 munud)
Dydd Mawrth 19 Mawrth 2013
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau: Cymunedau yn Gyntaf (30 munud)
· Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013 (30 munud)
· Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2011-12 (60 munud)
· Dadl: Llais y Cleifion - Cryfhau Rôl y Cynghorau Iechyd Cymunedol (60 munud)
Dydd Mercher 20 Mawrth 2013
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy (45 munud)
· Cwestiynau i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Dadl Cyfnod 1 ar Y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) (60 munud)
Busnes y Llywodraeth
· Penderfyniad ariannol ar Y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) (5 munud)
Busnes y Cynulliad
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar yr ymchwiliad i bolisi morol yng Nghymru (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Dadl fer - Ken Skates (De Clwyd) (30 munud)
Dydd Mawrth 16 Ebrill 2013
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu'r Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd) 2013 (15 munud)
· Gorchymyn Cynllun Effeithlonrwydd Ynni'r Ymrwymiad Lleihau Carbon 2013 (15 munud)
· Cynnig i gytuno ar egwyddorion cyffredinol Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) (60 munud)
· Cynnig i gymeradwyo'r Penderfyniad Ariannol ynghylch Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) (5 munud)
· Cynnig i gytuno ar egwyddorion cyffredinol Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) (60 munud)
· Cynnig i gymeradwyo'r Penderfyniad Ariannol ynghylch Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) (5 munud)
Dydd Mercher 17 Ebrill 2013
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
· Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
· Dadl Fer (30 munud)